Beth yw Allweddi Caerffili?

Mae Allweddi Caerffili yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Dîm Gwasanaethau Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid hirdymor ar gyfer eu heiddo, ac yn atal digartrefedd hefyd.

Roedd Allweddi Caerffili yn ateb rhentu preifat arloesol a gafodd ei lansio ym mis Awst 2018 ac mae wedi llwyddo i greu llwybr i’r Sector Rhentu Preifat ar gyfer unigolion sy’n wynebu digartrefedd.

O ganlyniad i lansio Cynllun Lesio Cymru gan Lywodraeth Cymru, mae gan Allweddi Caerffili bellach y gallu i gynnig cytundebau prydlesu hirdymor i landlordiaid, sy’n cynnwys cymhellion ariannol, rheolaeth lawn a gwaith cynnal a chadw am gyfnod y cytundeb prydlesu, a rhent gwarantedig. Bydd hyn yn creu eiddo rhent preifat diogel, cynaliadwy a fforddiadwy hirdymor i unigolion sy’n wynebu digartrefedd.