Landlordiaid
Am beth rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am amrywiaeth o eiddo i ddarparu ar gyfer amrywiaeth eang o ymgeiswyr digartref.
Ble?
Rydyn ni’n chwilio am eiddo ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Safonau?
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi elfennau gorfodol y mae angen eu bodloni cyn y gall eiddo fod yn rhan o’r cynllun. Bydd angen cynnal arolwg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i bennu safon bresennol yr eiddo. Fodd bynnag, os oes angen adnewyddu’r eiddo, mae grantiau amrywiol ar gael i landlordiaid i fodloni safonau Llywodraeth Cymru. Yn amodol ar gymhwysedd.
Gweler isod enghreifftiau fideo ar gyfer safon yr eiddo rydyn ni’n ei derbyn:
Fforwm Landlordiaid Preifat Caerffili
Cafodd Fforwm Landlordiaid Preifat Caerffili ei ffurfio yn 2007. Y prif amcan oedd darparu fforwm ar gyfer trafodaeth agored sy’n ein galluogi ni i gynrychioli landlordiaid Caerffili yn effeithiol a bod yn llais i chi, gan ganiatáu i ni ofyn cwestiynau a gweithio pan fo angen gyda’r Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau a herio cyfeiriad yn gadarnhaol. Yn ogystal â hyn, rydyn ni am fod yn llwyfan i gynorthwyo ein gilydd. Mae croeso i chi gysylltu â Fforwm Landlordiaid Preifat Caerffili yn chair@caerphillylandlordsforum.co.uk
Ddim yn siŵr a yw Prydlesu Allweddi Caerffili ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’r tîm a chael gwybod rhagor am ein gwasanaeth paru tenantiaid a landlordiaid sydd wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers 2018.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Thim Prydlesu Allweddi Caerffili Cysylltu â ni heddiw
Dolenni defnyddiol
- Caerffili – Landlordiaid Preifat
- Caerffili – Grantiau a benthyciadau tai
- Canllawiau ar ddarpariaethau diogelwch tân ar gyfer rhai mathau o dai presennol (Saesneg yn unig)
- Llyfrgell adnoddau (llyw.cymru)
- Chwiliwch am dystysgrif ynni – Chwiliwch am dystysgrif ynni – GOV.UK (communities.gov.uk)
- Ynni Clyfar GB | Ymunwch â’r chwyldro tawel
- Eich cwmni dwr dielw chi | Dwr Cymru
- Y Gofrestr Diogelwch Nwy | Y Rhestr Swyddogol o Fusnesau Diogelwch Nwy Cofrestredig – Mae’r Gofrestr Diogelwch Nwy wedi cymryd lle’r cofrestriad CORGI. Peidiwch â thorri corneli, defnyddiwch beiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig yn unig.
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Gwybodaeth ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Diogelu Blaendal Tenantiaeth – GOV.UK (www.gov.uk)
- Gosod eich eiddo ar rent: Talu trethi ac Yswiriant Gwladol – GOV.UK (www.gov.uk)
- Croeso i Rentu Doeth Cymru – Rhentu Doeth Cymru (gov.wales)
- Caerffili – Tai amlfeddiannaeth
- Nyth | nest.gov.wales